“Iechyd y rhyngrwyd a bywyd ar-lein yw pam rydyn ni’n bodoli.”
Mitchell Baker, Cadeirydd Gweithredol y Bwrdd, Mozilla Foundation
Mae Mozilla yn creu cynnyrch sy'n parchu preifatrwydd
-
Pori preifat a diogel
-
Erthyglau mwyaf diddorol y we
-
Canfod adolygiadau siopa ffug
-
Cuddiwch eich rhif ffôn a'ch e-bost rhag sbamwyr
-
VPN y gallwch ymddiried ynddo
-
Amddiffyn eich gwybodaeth breifat rhag broceriaid data
“Mae Mozilla yn hyderus bod modd dangos i’r byd bod modd gwneud busnes gydag AI dibynadwy. Mae hynny’n cynnwys rhoi pethau fel hawliau dynol, diogelu data a thryloywder wrth wraidd y ffordd y mae’r systemau cymhleth hyn yn gweithio.”
Gwleidyddiaeth
Ymunwch â ni i lunio AI dibynadwy
Nid peth newydd yn unig yw gwaith Mozilla gydag AI - rydym wedi treulio blynyddoedd yn ariannu, adeiladu ac eirioli dros AI sy'n agored, yn deg ac wedi'i ddatblygu'n gyfrifol. Rydym yn canolbwyntio ar greu AI sy’n gwasanaethu’r bobl, yn blaenoriaethu tryloywder ac yn cefnogi lles y cyhoedd, nid agendâu corfforaethol.
Darllen mwyFelly, beth yw Mozilla?
Yn ei graidd, mae Mozilla yn sefydliad actifydd a arweinir gan y Mozilla Foundation sy'n gwneud newid yn y byd trwy amrywiaeth o fentrau gan gynnwys Mozilla Corporation, MZLA, Mentrau Mozilla a Mozilla AI. Sut ydyn ni'n wahanol? Oherwydd ein bod ni’n cael ein gyrru gan genhadaeth, mae’n golygu bod gennym ni’r rhyddid i wneud ein holl benderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i’r rhyngrwyd ac i bawb ar-lein, nid yn seiliedig ar ofynion cyfranddalwyr—nid oes gennym ni ddim o’r rheini mewn gwirionedd.
Rhagor am y Mozilla FoundationYmunwch â'r frwydr dros rhyngrwyd iach
Eich llais. Eich cod. Eich syniadau. Mae yna filoedd o ffyrdd y gallwch chi gyfrannu at Mozilla.
Gwirfoddoli gyda MozillaY tro hwnnw i ni roi ein cod ffynhonnell i ffwrdd…
Sefydlwyd project Mozilla yn San Francisco yn 1998, pan wnaeth porwr Netscape y penderfyniad radical i roi cod ei raglen i'r cyhoedd i adeiladu arno a'i wella. Bryd hynny, roedd gan un cwmni fonopoli llawn ar brofiad pobl o'r rhyngrwyd.
Yn y pen draw, trawsnewidiodd project cod agored Mozilla i'r fersiwn gyntaf hynod boblogaidd o Firefox.
Heddiw, mae Mozilla yn parhau â'i symudiad tuag at well rhyngrwyd gyda miliynau o aelodau gweithgar o'r gymuned ar draws y byd, gan eiriol dros dechnoleg foesegol, AI dibynadwy ac yn cynhyrchu cynnyrch sy'n blaenori preifatrwydd ac yn rhoi mwy o bŵer i'r bobl.